Ymateb Consortia Rhanbarth i’r ymchwiliad i addysg cyfrwng Cymraeg, gyda phwyslais penodol ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
Cyd-destun
Yr awdurdodau lleol sy’n statudol gyfrifol am y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Fel consortia rhanbarthol, mae ein cyfraniad tuag at gynllunio a gweithredu’r CSGA yn amrywio rhwng cyfraniad sylweddol mewn rhai awdurdodau lleol ac enghreifftiau o gydweithio cyfyngedig mewn eraill. O ganlyniad, mae eglurder o safbwynt rolau consortia o fewn y fforymau Addysg Cyfrwng Cymraeg sy’n cynllunio a chefnogi’r CSGA yn faes y gellid ei adolygu a’i gryfhau mewn rhai lleoedd.
Ein
hymateb ni
A yw’r fframwaith statudol presennol ar gyfer Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi gwella ers ymchwiliad CSGAu 2015:
Mae’r disgwyliadau gan awdurdodau lleol ar sut y mae’r consortia rhanbarthol a phartneriaethau yn cefnogi gweithredu blaenoriaethau eu CSGA yn amrywio’n sylweddol. Mae angen mwy o eglurder ynghylch hyn, ac mae angen i rôl y consortia rhanbarthol o fewn fforymau Addysg Cyfrwng Cymraeg sy’n cynllunio a chefnogi’r CSGA gael ei ddiffinio’n glir.
Mae amwysedd hefyd ynghylch sut y dylid defnyddio’r cyllid ar gyfer Cymraeg mewn Addysg a ddarperir trwy’r Grant Gwella Addysg a Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol i gefnogi blaenoriaethau rhanbarthol a lleol. Mae angen ar frys i adolygu a gwerthuso sut y caiff y grantiau eu dyrannu a’u defnyddio i gefnogi’r Gymraeg mewn Addysg a’r CSGA.
Mae’r trefniadau presennol o fewn Llywodraeth Cymru yn dyrannu portffolio’r Gymraeg ar draws dwy adran. Byddai’n ddefnyddiol pe bai mwy o gysondeb rhwng eu gwaith. Er enghraifft, mae’r gofynion monitro ar gyfer y cyllid grant a ddyfernir trwy bob adran yn amrywio’n sylweddol.
I ba raddau mae’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg
yn cyfrannu at y canlyniadau a’r targedau a nodir yn
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg
2050:
Mae’r consortia a’r partneriaethau rhanbarthol yn cynnig darpariaeth eang ledled Cymru i gefnogi Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050. Mae’r cyfrifoldeb statudol dros y Gymraeg mewn Addysg yn gorwedd gydag awdurdodau lleol, ac mae CSGA pob awdurdod yn pennu ei flaenoriaethau a’i amcanion. Dylai’r consortia a’r partneriaethau rhanbarthol gydweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol i wireddu uchelgais CSGA pob awdurdod, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw rolau a chyfrifoldebau bob amser yn glir ac mae’r modelau gweithredu a’r prosesau cynllunio yn amrywio o fewn rhanbarthau ac awdurdodau lleol a rhwng rhanbarthau ac awdurdodau lleol a’i gilydd. Byddai dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol yn sicrhau mwy o gysondeb wrth ddarparu.
Gellid creu ‘Cynnig Dysgu Proffesiynol’ cenedlaethol i gefnogi’r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Byddai hyn yn cyfrannu hefyd at flaenoriaethau ac amcanion CSGAu, a thwf y Gymraeg tuag at filiwn o siaradwyr; gellid datblygu a hyrwyddo hyn yn yr un ffordd â’r Rhaglen Genedlaethol Datblygu Arweinyddiaeth.
Mae’r meysydd penodol y gellid rhoi sylw iddynt yn cynnwys:
· Y Gymraeg fel pwnc o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad;
· llythrennedd Cymraeg;
· darpariaeth a phrofiadau sy’n ymwneud ag iaith a diwylliant;
· methodoleg ar gyfer trochi cynnar a throchi hwyr;
· datblygu sgiliau iaith y gweithlu a gwella iaith staff addysgu;
· dulliau addysgu dwyieithog;
· Fframwaith Siarter Iaith (Cynradd/Uwchradd a Cymraeg Campus);
· datblygu cymorth i’r sector cyfrwng Cymraeg (penodol i sector) mewn meysydd fel anghenion dysgu ychwanegol, Cymraeg ar draws y cwricwlwm, cefnogi teuluoedd, a darpariaeth e-sgol.
Sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i newidiadau i ganllawiau ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac a ydynt yn cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwy ffrwd?
Mae angen diffiniad y cytunir arno’n genedlaethol o’r hyn a olygwn gyda siaradwr Cymraeg yng nghyd-destun symud tuag at y dyhead cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Byddai’r sgiliau hyn yn elwa o gael eu nodi’n glir ar gontinwwm fel bod yr heriau o adolygu a diffinio darpariaeth, cefnogi a datblygu’r gweithlu angenrheidiol yn cael eu deall yn glir gan bawb.
Gall rhanbarthau gefnogi’r gweledigaeth yr awdurdod lleol o newid trwy gydweithio’n agos ar gynnig cynhwysfawr o ddysgu proffesiynol er mwyn datblygu gweithlu sydd â’r capasiti a’r gallu i fynd i’r afael â’r heriau lleol. Bydd hyn yn cynnwys cymorth i ysgolion cyfrwng Saesneg i gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, defnydd cyd-gysylltiedig o’r Fframwaith Cymhwysedd Iaith. Mae angen datblygu cyswllt clir rhwng y fframwaith hwn a’r ddarpariaeth sydd ar gael yn genedlaethol, rhanbarthol ac yn lleol ar gyfer gwella sgiliau iaith ymarferwyr.
Dylid helpu’r awdurdod lleol i sefydlu a gweithredu pecyn o gymorth ar gyfer pob ysgol sy’n troi o un categori iaith i’r llall, gan gynnwys darparu cymorth i gyrff llywodraethu, yn enwedig ynghylch cyflogi gweithlu addas wrth symud ymlaen. Mae tasg sylweddol hefyd mewn gweithredu Fframwaith y Gymraeg mewn Addysg Cyfrwng Saesneg a fydd yn cynnwys heriau megis:
· Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o nod y Fframwaith;
· sut i’w defnyddio wrth gynllunio;
· dangos cynnydd ac asesiadau dysgwyr;
· helpu ysgolion i flaenoriaethu datblygiad strategol y Gymraeg – gan gynnwys datblygu dealltwriaeth y corff llywodraethu;
· llunio’r cwricwlwm – ystyriaethau ynghylch cydbwysedd iaith wrth lunio’r cwricwlwm, cynllunio dysgu a chefnogi datblygiad y gweithlu.
Pa heriau fydd yn codi o safbwynt cynllunio a datblygu darpariaeth gyfrwng Cymraeg, yn barod am Fil Addysg Gymraeg arfaethedig?
Bydd angen i awdurdodau lleol gael gweledigaeth hirdymor o sut y byddant yn gydnaws â dyheadau ieithyddol Llywodraeth Cymru. Bydd yn rhaid cefnogi’r weledigaeth hon gan cynllun gweithredu clir ynghylch sut bydd hyn yn digwydd. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o’u seilwaith ysgolion a sut y caiff hyn ei ailfodelu dros amser i gynnig digon o leoedd i sicrhau y bydd nifer y disgyblion yn ddigonol i gyfrannu at y targed cenedlaethol.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu eu dyraniad cyllid grantiau yn y Grant Gwella Addysg, Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol a dyfarnu cyllid i gefnogi rhaglenni ysgolion y 21ain ganrif i sicrhau bod awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn gwario dyfarniadau grant o fewn paramedrau newydd clir i gyrraedd eu targed i ymgyrraedd ato o ran siaradwyr Cymraeg.
Amodau a llywodraethu grantiau
· Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn ddigon penodol felly mae’r dehongli/pwyslais a roddir o ran ‘datblygu’r gweithlu’ yn wahanol gan y rhanbarthau. Mae anghysondebau a meysydd llwyd o ran y darlun mawr a beth sydd angen ei gyflawni. Nid yw’r prif ganlyniadau mae pawb ohonom yn gweithio tuag atynt yn gwbl glir.
· Mae amrywiaeth helaeth yn y ffordd y caiff Grantiau Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol a’r Grantiau Gwella Addysg eu llywodraethu ac felly nid yw’n bosibl adrodd mewn dull systematig a chyson ee ar y defnydd nac ar effaith dyraniadau Grantiau Gwella Addysg ym mhob achos.
· Mae’r capasiti i gyflawni yn amrywio o fewn awdurdodau lleol a rhanbarthau a rhyngddynt a’i gilydd. Mae hyn yn dibynnu ar fodelau cyllido, ac ar sut y caiff y gyllideb ei llywodraethu’n lleol.
· Mae lefelau staffio i gefnogi’r gwaith yn amrywio’n fawr ar draws rhanbarthau ac awdurdodau lleol. Mae dau gonsortiwm yn yn darparu’r holl wasanaethau ar gyfer y Gymraeg. Mewn ardaloedd eraill, mae amrywiaethau o safbwynt darpariaeth awdurdodau lleol o dan ambarél canolog y consortia. Mewn siroedd yn y canolbarth, mae gwasanaethau Cymraeg yn gorwedd yn gyfan gwbl gyda’r awdurdodau lleol. O ganlyniad, mae anghysondeb mawr yng nghapasiti a natur blaenoriaethau lleol. Mae’r dyraniad ariannol i ysgolion yn anferth mewn rhai ardaloedd tra bod y rhan fwyaf o’r cyllid yn cael ei wario’n benodol ar y Gymraeg a’r capasiti i ddatblygu’r gweithlu canolog mewn ardaloedd eraill.
Ffordd bosibl ymlaen
1. Mae angen diffinio a chyfleu continwwm clir a diamwys ar gyfer y Gymraeg er mwyn caniatáu i gynnydd pawb gael ei ddal mewn ffordd debyg fel ein bod yn gallu mesur cynnydd yn effeithiol tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg.
2. Dylid adolygu priodoldeb ac addasrwydd y trefniadau grantiau presennol er mwyn sicrhau bod gan y Gymraeg statws uchel a bod yr holl rolau partneriaeth yn glir. Dylid adlewyrchu’r rolau hyn mewn amcanion ac amodau cyllid grant.
· Sicrhau eglurder ar isafswm y nifer o swyddogion arbenigol mae eu hangen ar y rhanbarthau er mwyn gweithredu cynlluniau a gwireddu dyheadau’r Llywodraeth (sef y Gymraeg a llythrennedd, darpariaeth gyfrwng Cymraeg, a’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg).
3. Dylid adolygu diben cyllidebau presennol a’u cysoni â ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt sy’n cefnogi prif strategaethau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwell canolbwyntio a chanlyniadau clir a chryfach.
4. Dylid sefydlu bwrdd strategol cenedlaethol yn cynnwys is-grwpiau i gryfhau cynllunio strategol, sicrhau cysondeb dull ac adrodd yn ôl yn rheolaidd ar gynnydd er mwyn sicrhau llywodraethu cryf ar ddatblygu’r Gymraeg. Dylai aelodaeth o’r bwrdd strategol gynnwys:
· Uwch-swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru;
· arweinwyr strategol o bob rhanbarth (neu gynrychiolaeth o unrhyw awdurdod lleol nad yw’n gweithio o fewn model rhanbarthol);
· cynrychiolaeth o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.
5. Dylid sefydlu a ffurfio is-grwpiau gweithredol y Bwrdd Strategol yn unol â’r 7 canlyniad mewn CSGA, a chefnogi Cynllun Cefnogi y Gweithlu Cymraeg Llywodraeth Cymru. Gallai hyn fod â photensial o gryfhau’r drafodaeth ranbarthol a chenedlaethol trwy:
· sicrhau mewnbwn gan randdeiliaid allweddol;
· sicrhau bod cyfrifoldeb gweithredol yn glir i awdurdodau lleol a’r rhanbarthau;
· sefydlu gweithgorau sy’n cynnwys ymarferwyr.
· ym mhob sector, gweithio gyda a rhannu arfer orau i recriwtio a chadw arweinwyr canol ac uwch sydd â sgiliau ieithyddol penodol a phriodol i hyrwyddo a datblygu'r Gymraeg.
6. Dylid adolygu’r trefniadau presennol i’r diben o gael cysondeb a chynllunio cenedlaethol strategol clir a chytundeb ar:
· Siarter Iaith a Cymraeg Campus (cynradd ac uwchradd);
· Grantiau Trochi, Grantiau Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol, Grant Gwella Addysg, gan nodi disgwyliadau am gydweithio rhwng awdurdodau lleol a chonsortia.
7. Dylid creu Swyddog Proffesiynol cenedlaethol ar gyfer y meysydd sy’n ymwneud â’r Cwricwlwm i Gymru a chynyddu darpariaeth Gymraeg ar gyfer y miliwn o siaradwyr (a hyrwyddir yn un ffordd â’r cynnig cenedlaethol ar ddatblygu arweinyddiaeth), e.e.,
· Y Gymraeg fel pwnc o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad;
· datblygu sgilau;
· llythrennedd Cymraeg;
· darpariaeth a phrofiadau sy’n ymwneud ag iaith a diwylliant;
· methodoleg ar gyfer trochi cynnar a hwyr;
· datblygu sgiliau iaith y gweithlu a gloywi iaith staff addysgu;
· dulliau addysgu dwyieithog;
· Fframwaith Siarter Iaith (Cynradd/Uwchradd a Cymraeg Campus);
· Datblygu cymorth i’r sector cyfrwng Cymraeg (penodol i sector) mewn meysydd fel anghenion dysgu ychwanegol, Cymraeg ar draws y cwriclwm, cefnogi teuluoedd, a darpariaeth e-sgol.
8. Dylid cefnogi datblygiad a statws y Gymraeg ar hyd y llwybr dysgu proffesiynol trwy ddatblygu arweinyddiaeth yn y sectorau cyfrwng Cymraeg a Saesneg trwy:
· Hunan-asesu a chynllunio ar gyfer meithrin a datblygu darpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol.
9. Dylai Canllawiau Gwella Ysgolion newydd Llywodraeth Cymru gynnwys y ddyletswydd ar ysgolion i adrodd ar gynnydd maent wedi’i wneud wrth gyfrannu at eu CSGA lleol a miliwn o siaradwyr Cymraeg.
10. yn natblygiad yr iaith Gymraeg, adnabod yr arferion gorau sydd wedi'u hymchwilio'n gadarn ac sydd â sylfaen dystiolaeth gref a llwyddiannus.